SL(6)652 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn nodi’r ffordd y caiff pryderon ynghylch gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, neu o dan drefniadau gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, eu hystyried. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau er mwyn:

·         diwygio’r egwyddorion cyffredinol sy’n berthnasol i ydrin ac ymchwilio i bryderon er mwyn sicrhau bod y person sy’n hysbysu pryder yn cael gwybod am gynnydd, i’r graddau y bo’n rhesymol bosibl, drwy’r dull cyfathrebu a ffefrir ac mewn modd y gall ei ddeall;

·         ehangu’r rhestr o faterion sy’n ymwneud â’r ymchwiliad y mae’n rhaid eu trafod gyda’r person sy’n hysbysu pryder, gan gynnwys pa ddatrysiad y mae’n gobeithio ei gyflawni;

·         cynyddu’r digollediad ariannol y gellir ei gynnig o dan y Prif Reoliadau o £25,000 i £50,000;

·         diffinio gweithdrefn datrys yn gynnar sy’n galluogi’r partïon i ddatrys pryder cyn dechrau ymchwiliad llawn;

·         darparu bod y person sy’n hysbysu pryder yn cael cynnig cyfle i drafod yr adroddiad wyneb yn wyneb, ar ôl i’r mater gael ei ymchwilio ac adrodd arno;

·         diwygio’r amserlenni ar gyfer yr elfennau a ganlyn o’r trefniadau gwneud iawn:

o   cyfnewid gwybodaeth rhwng darparwyr gofal iechyd os yw’r pryder yn ymwneud â gofal a ddarperir gan fwy nag un corff GIG Cymru, darparwr gofal sylfaenol neu ddarparwr annibynnol;

o   llunio adroddiad ar ymchwiliad;

o   cyfathrebu’r penderfyniad ynghylch a ddylid cynnig iawn;

·         eithrio rhag cwmpas y trefniadau gwneud iawn, bryderon:

o   yr ystyrir eu bod yn flinderus neu’n wamal; neu

o   yr ymdrinnir â hwy o dan y weithdrefn datrys yn gynnar sydd newydd ei diffinio;

·         newid y gofynion monitro ac adrodd blynyddol a osodir ar gyrff cyfrifol o dan y Prif Reoliadau.  

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn. 

1.       Rheol Sefydlog 21.2(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg

 

Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliad 22A newydd yn y Prif Reoliadau.  Yng ngeiriau agoriadol rheoliad newydd 22A(4), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn defnyddio’r geiriau “has attempted resolution during the early resolution period” ond yr ystyr a roddir yn y testun Cymraeg yw “wedi ceisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar”.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

1 Hydref 2025